Lleoliad: O BELL
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 9 Mai 2022
Amser:
14.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Gareth Price - Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
Deisebau@senedd.cymru
------
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
(Tudalennau 1 - 20)
2 Deisebau newydd
2.1 P-06-1250 Dylid agor cyfleuster ysbyty llawn, gan gynnwys adran damweiniau ac achosion brys yng nghanolbarth Cymru
(Tudalennau 21 - 29)
2.2 P-06-1262 Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i benderfyniadau a wnaed ganddi cyn ac yn ystod y pandemig.
(Tudalennau 30 - 37)
2.3 P-06-1263 Rheoli llygredd sy'n deillio o waith amaethyddol yn y rhannau o Afon Gwy ac Afon Hafren a leolir yng Nghymru
(Tudalennau 38 - 46)
2.4 P-06-1268 Dylid adolygu'r broses o ran statws ardaloedd wedi’u rhag-asesu ar gyfer tyrbinau ar y tir, sy’n rhoi unigolion dan anfantais annheg.
(Tudalennau 47 - 56)
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati)
(Tudalennau 57 - 59)
3.2 P-06-1251 Dylid sicrhau’r hawl i fynediad o bell i bobl anabl a niwrowahanol
(Tudalennau 60 - 65)
3.3 P-06-1173 Amddiffyniad cyfreithiol i Ardaloedd Tirwedd Arbennig dynodedig yng Nghymru
(Tudalennau 66 - 67)
3.4 P-06-1201 Gwahardd saethu rhywogaethau adar sydd mewn perygl difrifol a rhoi’r diogelwch sydd ei angen mor daer arnynt!
(Tudalennau 68 - 71)
3.5 P-06-1218 Hysbysu pob person 18 oed sydd wedi derbyn gofal cymdeithasol fod ganddynt yr hawl i wneud cais am eu gwybodaeth bersonol.
(Tudalennau 72 - 74)
3.6 P-06-1222 Gwahardd barbeciws untro o'n Parciau Cenedlaethol, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a thraethau yng Nghymru!
(Tudalennau 75 - 81)
3.7 P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn
(Tudalennau 82 - 86)
Papurau i'w nodi
4.1 P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru
4.2 P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau dysgu gwrth-hiliaeth i blant mewn ysgolion yng Nghymru i leihau troseddau casineb
(Tudalennau 87 - 88)
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6.
6 Trafodaeth ynghylch yr Adroddiad Blynyddol drafft
(Tudalennau 89 - 103)